WELSH CAKES WORLD CHAMPS
SCROLL DOWN FOR GUIDELINES AND REGISTRATION FORM / EWCH LAWR Y DUDALEN I WELD Y CANLLAWIAU A'R FFURFLEN GOFRESTRU
PENCAMPWRIAETH CACENNAU GRI Y BYD CREISION JONES - 2017
JONES CRISPS WORLD WELSH CAKES CHAMPIONSHIP - 2017
Mewn partneriaeth gyda - In partnership with:
Ffair Nadolig Llandudno Christmas Fayre
Canolfan Fwyd Cymru Bodnant Food Centre Wales
Go North Wales
Siambr Fasnach Llandudno Chamber of Trade
Merched y Wawr
Cynhelir yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno (LL30 2PY)
Enillydd i’w gyhoeddi am 11:30yb, dydd Gwener, Tachwedd 17eg
Held at Holy Trinity Church, Llandudno (LL30 2PY)
Winner to be announced 11:30am, Friday, November 17th
Cliciwch YMA i lawrlwytho y ffurflen gofrestru - gallwch e-bostio copi wedi'i scanio neu ei phostio i ni.
Click HERE to download the registration form - you can e-mail a scanned copy or post it to us.
GWOBR Y BENCAMPWRIAETH - £150, cyflenwad o Greision Jones am flwyddyn a thlws unigryw wedi’i gomisiynu’n arbennig.
CHAMPIONSHIP PRIZE - £150, a year’s supply of Jones Crisps and a specially commissioned trophy.
RHEOLAU A CHANLLAWIAU Y BENCAMPWRIAETH
- Pencampwriaeth y Byd ar gyfer Cacennau Gri Traddodiadol yw hon. Y prif amcan yw dathlu treftadaeth un o hoff ddanteithion Cymru ac i gael hwyl yn y broses. Mae modd hefyd cystadlu ar gyfer gwobr am y Gacen Gri Blas Gwahanol. Enillydd y dosbarth Cacennau Gri Traddodiadol fydd yn cipio teitl Pencampwr/aig Cacennau Gri y Byd.
- Mae’r trefnwyr yn derbyn bod ardaloedd gwahanol o Gymru yn defnyddio ac yn arddel enwau eraill ar gyfer Cacennau Gri megis ‘Picau ar y Maen,’ ‘Pice Bach,’ a ‘Theisen Radell’
- I gofrestru, ac felly sicrhau eich mynediad i’r Pencampwriaeth y Byd, cwblhewch y ffurflen gais ar y dudalen olaf a naill ai sganiwch ac e-bostiwch o at heulwen@madryn.co.uk neu postiwch i Creision Jones, 3 Tŷ Connaught, Riverside Business Park, Ffordd Benarth, Conwy LL32 8UB. Yn yr un modd, gallwch sganio neu dynnu llun o’r ffurflen wedi’i gwblhau gyda’ch ffôn, ac yna ei yrru at gyfrif trydar Creision Jones @JonesoGymru drwy’r bwrdd negeseuon uniongyrchol, neu ei yrru drwy system negeseuon Facebook at gyfrif Creision Jones sef “Jones o Gymru.”
- Cyfyngir i un ymgais mesul dosbarth ar gyfer pob person. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar sail personol ac nid yn enw busnes neu sefydliad. Mae’n dderbyniol i nodi cyfeiriad eich gwaith fel eich cyfeiriad.
- Mae cofrestru yn cau am hanner nos, dydd Sul, Tachwedd 12fed.
- Dewch a’ch Cacennau Gri i Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno rhwng 5yh-7yh ar y nos Iau blaenorol, Tachwedd 16eg. Fel arall, gallwch bostio eich Cacennau Gri i Creision Jones, 3 Tŷ Connaught, Riverside Business Park, Ffordd Benarth, Conwy LL32 8UB. Gwnewch yn siwr bod danfoniadau post yn ein cyrraedd rhwng dydd Mawrth, Tachwedd 14eg a dydd Iau, Tachwedd 16eg. Bydd rhai canghennau o Merched y Wawr hefyd yn cyd-weithio i gael ceisiadau i fyny i Landudno ar amser – cysylltwch gyda’ch cangen leol am fwy o wybodaeth. Ni all y trefnwyr gymryd cyfrifoldeb am ddanfoniadau sy’n methu neu am geisiadau sy’n cael eu niweidio yn ystod y broses o ddanfon.
- Rhaid i bob ymgais gynnwys rhestr o gynhwysion sy’n dangos yn glir yr hyn sydd wedi cael ei ddefnyddio i bobi’r Cacennau Gri. Bydd unrhyw ymgais heb restr cynhwysion yn cael ei wrthod.
- Noder bod angen 4 cacen gri gyda pob ymgais. Bydd ceisiadau gyda mwy neu lai yn cael eu gwahardd.
- Bydd beirniadu yn digwydd ar fore Gwener, Tachwedd 17eg rhwng 8yb-11yb. Ni fydd mynediad i ymwelwyr y Ffair Nadolig i weld y ceisiadau yn yr Eglwys tan o leiaf 12:00yh.
- Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
- Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi yn swyddogol am 11:30yb ar y prif lwyfan ar ddydd Gwener, Tachwedd 17eg.
- Rhaid i bob ymgais aros yn Eglwys y Drindod Sanctaidd ar gyfer cael eu harddangos i’r cyhoedd tan 3yh, dydd Gwener, Tachwedd 17eg. Bydd unrhyw Gacennau Gri sydd ar ôl yn yr Eglwys o 5:00yh ymlaen yn cael eu clirio gan y trefnwyr. Ni fydd y trefnwyr yn gyfrifol am ddychwelyd ceisiadau neu unrhyw eitem/offer a ddefnyddwyd i arddangos.
- Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £150 a chyflenwad blwyddyn o Greision Jones sy’n cyfateb i un bocs y mis. Bydd enillydd y dosbarth Blas Gwahanol yn derbyn gwobr o £50 a bocs o Greision Jones.
- Er nad yw’n ofyniad, byddai’r trefnwyr yn hoffi annog pobyddion i ddefnyddio cynhwysion lleol neu Cymreig lle bo’n bosib.
- Mae ffi cystadlu o £5/dosbarth yn daladwy wrth gyflwyno’r ffurflen gais. Codir £10 felly am gystadlu yn y ddau ddosbarth. Gofynnir i ymgeiswyr dalu y ffi i “Ffair Nadolig Llandudno” yn electroneg os yn bosib, gyda’r manylion canlynol - Cod Didoli: 30-95-13 Rhif Cyfrif: 00639407 Defnyddiwch eich enw cyntaf a chyfenw fel cyfeirnod talu. Anfonwch e-bost yn cadarnhau y taliad a’ch dewis o gyfeirnod, at enquiries@llandudnochristmasfayre.co.uk Fel arall gallwch bostio siec yn daladwy i “Ffair Nadolig Llandudno” i Pencampwriaeth Cacennau Gri y Byd Creision Jones, C/o Management Suite, 18 Abbey Rd, Llandudno, LL30 2EA.
CHAMPIONSHIP RULES AND GUIDELINES
- This is a World Championship event for a Traditional Welsh Cake. The overall aim is to celebrate the rich heritage of one of Wales’ favourite culinary treats and to have fun.It’s also possible to compete in the “Alternative Flavour Welsh Cake” competition. The winner of the “Traditional Welsh Cake” competition will be crowned the “World Welsh Cake Champion.”
- The organisers accept that different areas of Wales may use and apply different names for Welsh Cakes, such as ‘Picau ar y Maen,’ ‘Pice Bach,’ and ‘Theisen Radell’
- To register, and therefore secure your entry to the World Championship, complete the Registration Form overleaf and either scan and e-mail to blas@madryn.co.uk or post to Jones Crisps, Bwydydd Madryn Foods Cyf, 3 Tŷ Connaught. Riverside Business Park, Ffordd Benarth, Conwy LL32 8UB. Also, you are welcome to scan or photograph the form with your phone, and send it to our twitter account @JonesoGymru via direct message board, or to our Facebook page ‘Jones o Gymru’ via messages.
- Entry is limited to one per class per person. Entries must be made on a personal basis and not in the name of a business or organisation. You may put your work place address as your corresponding address.
- Registration closes midnight, Sunday, November 12th.
- Please bring your Welsh Cakes to the Holy Trinity Church, Llandudno between 5pm-7pm on the preceding Thursday, November 16th. Alternatively, you may post your Welsh Cakes to Jones Crisps, Bwydydd Madryn Foods Cyf, 3 Tŷ Connaught, Riverside Business Park, Ffordd Benarth, Conwy LL32 8UB. Please ensure that postal delivery takes place between Tuesday November 14th and Thursday November 16th. A number of ‘Merched y Wawr’ branches will be working together on getting multiple entries to Llandudno on time – please get in touch you’re your local branch for more information. Organisers cannot take responsibility for failed deliveries or for damaged entries.
- Each entry must be accompanied with a list of ingredients showing clearly what has been used to bake the Welsh Cakes. Entries without list of ingredients will be dismissed.
- Note that 4 individual Welsh Cakes are required per class entry. More or less will be disqualified.
- Judging will take place on Friday morning, November 17th between 8am-11am. Access to Christmas Fayre visitors to view the entries in the Church will not be granted until at least 12:00pm.
- The judges’ decision will be final.
- The winner will be officially announced at 11:30am on the Fayre’s main stage on Friday, November 17th.
- All entries must remain at the Holy Trinity Church for public exhibition until 3pm, Friday November 17th. Any Welsh Cakes left at Holy Trinity Church after 5:00pm on the Friday will be cleared by the organisers. The organisers will not be responsible for returning entries or items used for display.
- The World Champion will receive prize money of £150 and a year’s supply of Jones Crisps equivalent to one box per month. The winner of the Alternative Flavour class will win £50 and a case of Jones Crisps.
- Although not a requirement, the organisers would like to encourage bakers to use local or Welsh ingredients where possible.
- A £5 entry fee is payable upon submitting the registration form. It will therefore cost £10 to enter both classes. Payment should be made electronically to the “Llandudno Christmas Fayre” account via the following details - Sort code: 30-95-13 Account number: 00639407 Please use your forename and surname as payment reference. Please e-mail a payment confirmation, including the reference used to enquiries@llandudnochristmasfayre.co.uk Alternatively you can post a cheque made payable to “Llandudno Christmas Fayre” to Jones Crisps World Welsh Cake Championships, C/o Management Suite, 18 Abbey Road, Llandudno, LL30 2EA.
FFURFLEN GOFRESTRU PENCAMPWRIAETH CACENNAU GRI CREISION JONES
JONES CRISPS WORLD WELSH CAKES CHAMPIONSHIP RESGISTRATION FROM
Enw – Name:_____________________________________________________
Cyfeiriad – Address:________________________________________________
________________________________________________________________
E-bost – E-mail:___________________________________________________
Ffôn – Phone:_____________________________________________________
Sut glywsoch chi am y Bencampwriaeth? - How did you hear about the Championship?
____________________________________________________
Cadernhewch isod gyda croes pa ddosbarth/iadau yr hoffech gystadlu:
Please confirm below with a cross which class/es you wish to compete in:
4 x Cacen Gri Traddodiadol – 4 x Traditional Welsh Cake [ ]
4 x Cacen Gri Blas Gwahanol – 4 x Alternative flavour Welsh Cake [ ]
Ticiwch isod sut rydych yn debygol o ddanfon eich Cacennau Gri i Landudno?
Please tick how you’re likely to deliver your Welsh cakes to Llandudno?
Mi af ag nhw yno fy hun / Will take them there myself [ ]
Ffrind neu deulu yn eu danfon / Friend or family will take them [ ]
Mi wna i bostio nhw / Will post them [ ]
Defnydd swyddfa yn unig – Office use only
Rhif ymgeisydd yw............
Cliciwch YMA i lawrlwytho y ffurflen gofrestru - gallwch e-bostio copi wedi'i scanio neu ei phostio i ni.
Click HERE to download the registration form - you can e-mail a scanned copy or post it to us.