CNYDAU AMGEN
Cnydau yw’r rhain na dyfir yn arferol mewn ardal arbennig. Yng Nghymru, er enghraifft, mae’n golygu unrhyw gnwd ar wahân i haidd, ceirch, gwenith, porfa, tatws a mês.
Gellir cael sawl math gwahanol o gnwd amgen:
- Cnwd egni e.e miscanthws neu hâd olew rêp ar gyfer biodisl.
- Cnwd grawn amgen e.e ceirch noeth, rhyg neu haidd noeth.
- Cnwd meddyginiaethol e.e eurinllys neu melyn mair
- Cnwd ffeibr e.e cywarch neu llyn
- Cnwd hâd olew amgen e.e cydllyn, tafod yr ych, glesyn y wiber neu crambe.
- Cnwd lliw e.e llysiau’r lliw.
Gall Madryn Cyf gynnig arbenigedd ar gyfer tyfu, prosesu a marchnata cnydau amgen. Mae gan y cwmni weledigaeth o sefydlu adnoddau prosesu mewn ardaloedd gwledig er mwyn ychwanegu gwerth i gynnyrch sydd â galw masnachol cryf.
BWYDYDD SWYDDOGAETHOL
Cânt eu hadnabod hefyd fel ‘bwyd medrus’. Diffinir bwydydd swyddogaethol yn wyddonol fel bwyd a diod sy’n effeithio’n fanteisiol ar un neu ragor o swyddogaethau penodol y corff, tu hwnt i effeithiau maeth digonol, mewn modd sy’n berthnasol i well cyflwr iechyd ac/neu leihad yn y risg o afiechydon. Mae ganddynt felly fanteision iechyd tu hwnt i’w gwerth maeth.
Rhagwelir tyfiant sylweddol yn y farchnad yma yn y dyfodol agos. Gwelwyd y tueddiad yma ar ei amlycaf yn y sector llaeth, gyda’r farchnad i ddiodydd iogwrt llesol godi 46% o 2004 o 2005 i fod yn werth £197m. Dengys rhagolygon gan gwmni Mintel bydd y farchnad i fwydydd swyddogaethol yn werth oddeutu £1.7biliwn ym Mhrydain erbyn diwedd 2007.
Gellir datblygu bwydydd swyddogaethol mewn un o ddau ffordd:
- Ychwangeu gwerth at gynnyrch cyffredin e.e trin diet gwartheg godro i gynyddu lefel omega-3 mewn llaeth, cynyddu lefel omega-3 mewn cig coch yn yr un modd neu cynhyrchu bara o rawn sy’n uchel mewn ffeibr Î-glucan. Gall addasu proffeil maeth cynnyrch bob dydd ychwanegu gwerth sylweddol i gynnyrch cyn belled ei fod yn cael ei farchnata’n effeithiol.
- 2.Datblygu cynnyrch newydd – Gellir mynd ati i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer y farchnad megis diodydd iogwrt, grawnfwydydd newydd, byr-brydau iach a chynhyrch arloesol o hâd olew. Mae gan Madryn Cyf lu o syniadau ar gyfer datblygu cynnyrch newydd a ellir eu cynhyrchu yng nghefn gwlad.
Mae angen gwybodaeth technegol cadarn ar gyfer datblygu bwydydd swyddgaethol, a rhaid cael dealltwriaeth o ofynion deddfwriaethau parthed labelu cynnyrch. Ni ellir gwneud honiadau ar fwydydd oni bai eu bod wedi cael eu profi’n wyddonol.
Mae llwyddiant bwyd swyddogaethol yn dibynnu ar ansawdd y marchnata, gan bod angen addysgu’r cwsmer am y manteision iechyd ac hybu gwerthiant ar yr un pryd.
Gall Madryn Cyf gynnig arbenigedd ar gyfer datblygu bwydydd swyddogaethol a cynhyrchu a marchnata.
Dull o dyfu planhigion heb bridd yw hydroponig. Darperir holl anghenion maeth y planhigion drwy ymdoddi’r maethynnau mewn dŵr a gylchredir o amgylch y gwreiddiau.
Mae planhigion a dyfir yn y dull yma yn buddsoddi mwy o egni yn tyfu tuag at i fyny yn hytrach na thuag at i lawr, gan bod y maethynnau i gyd ar gael yn rwydd. Dyma rai o fanteision systemau hydroponig:
- Gellir tyfu drwy gydol y flwyddyn
- Cyfradd tyfiant uwch a chynnyrch llawer uwch.
- Honnir bod y blas yn well a’r cynnwys maeth yn uwch.
- Gellir osgoi afiechydon pridd a phroblemau erydiad a thrwytholchi.
- Gwneir defnydd gwell o ddŵr.
- Gellir tyfu cynnyrch mwy gwerthfawr.
Mae nifer o ffermydd traddodiadol yn ngogledd America a Seland Newydd yn mabwysiadu”r technoleg yma ar gyfer arallgyfeirio eu busnesau. Gellir tyfu perlysiau (meddyginiaethol neu arlwyol) mewn systemau hydroponig. Dewis arall yw llysiau megis chilli, okra ac amrywiol ddail salad. Mae’n bosib hefyd tyfu ffrwythau meddal neu flodau ffres. Mae’r holl bosibiliadau yn gynhyrfus iawn.
Mae Madryn Cyf yn awyddus i gyd-weithio gyda grwpiau o dyfwyr blaengar sy’n barod i fuddsoddi yn y technoleg er mwyn cynhyrchu cynnyrch sydd â galw uchel. Gall Madryn Cyf gynnig arweiniad o ran y technoleg y dylid ei ddefnyddio, yn ogystal â chymorth i ddosbarthu a marchnata’r cynnyrch. Dylid ystyried camau megis paratoi, glanhau, labelu a brandio’r cynnyrch cyn iddo gyrraedd y silff. Gellir sefydlu uned mewn twnel poly 14″ o led, wrth 40″ o hyd, am lai na £4,000.