Masnacheiddio

Masnacheiddio – gwireddu’r potensial

Mae gwireddu potensial masnachol cynnyrch newydd arloesol yn gofyn am ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o anghenion y farchnad. Mae angen sicrhau fod gan y cynnyrch cysylltiad cyn ei cynhyrchu yn angenrheidio. Gall Madryn helpu sicrhau fod ffynhonell cysylltu i gael gydar cynyrch er mwyn sicrhau gwerthiant.

Nid yw cael syniad gwreiddiol yn ddigon i sicrhau llwyddiant masnachol. Rhaid mynd drwy broses resymegol sy’n cynnwys camau megis archwilio’r farchnad, adnabod lleoliadau masnachu, asesu’r cystadleuaeth, sefydlu system ddosbarthu, creu delwedd, paratoi ymgyrch farchnata a llu o bethau eraill. Gall Madryn Cyf eich helpu i fynd drwy’r broses yma o wireddu gwerth cynnyrch newydd.

Os oes gennych gynnyrch (boed yn gynnyrch ffisegol neu’n wasanaeth) sydd â photensial masnachol, cysylltwch i drafod sut gall y cwmni helpu chi i’w wireddu.

Yma i helpu gwireddu eich cynlluniau arallgyfeirio

Cynnyrch Newydd

Calon Lan

Mae Madryn Cyf, mewn partneriaeth â Menter Môn bellach wedi datblygu Olew Coginio newydd o’r enw Calon Lân.

Oer-wasgir yr olew pur iawn o hadau’r planhigyn Camelina. Er yn hysbys i ddyn ers Oes yr Haearn, anghofwyd am Olew Camelina Pur iawn ym mhob man heblaw am Rwsia a Llychlyn. Calon Lân yw’r cyntaf i ddod â fo i Brydain. Nid olew cyffredin mohonno, gan ei fod yn un o’r ffynonellau naturiol gorau o Omega-3 a Fitamin E, ac mae’n cynnwys cyfuniad anhygoel o asidau brasterog amlannirlawn a gwrthocsidyddion llesol. Mae’n berffaith gyda Salad, Pasta, Reis a Thatws.

Os ydych â diddordeb mewn prynu Olew Calon Lân, cliciwch yma.