Datblygu a rheoli prosiect
Gwasanaeth datblygu a rheoli prosiect
Yn deillio o 5 mlynedd o brofiad yn datblygu a rheoli prosiectau yn y sector gyhoeddus, gall Madryn Cyf gynnig gwasanaeth datblygu a rheoli prosiect cynhwysfawr. Cynnigir cymorth o’r dechrau cyntaf wrth geisio sicrhau nawdd ac asesu’r dichonoldeb, hyd at weinyddu y prosiect a sicrhau bod y targedau yn cael eu taro a’r cerrig milltir yn cael eu cyrraedd. Manteisiwch ar y gwasanaeth yma i hwyluso’r broses i chi ac i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch prosiect, boed yn fach neu’n fawr.
Cysylltwch heddiw i drafod eich prosiect – ni godir tâl o gwbl am sgwrs ac arweiniad dechreuol.