Sut mae trosglwyddo technoleg?
Ni yw’n bosib ymledu cynnyrch neu wybodaeth newydd dros nos. Os am sicrhau y buddion gorau bosib o’ch cynnyrch neu gynllun, gall Madryn Cyf gynnig gwasanaeth trosglwyddo technoleg a gwybodaeth, drwy ddefnyddio technegau sydd wedi’i meithrin yn bwrpasol ar gyfer y dasg.
Mae’r camau mae person yn mynd drwyddynt wrth dderbyn neu wrthod syniad newydd yn debyg i’r broses o ddatrys problemau. Gellir defnyddio technegau arbennig i hybu y broses yma fel y gwelir isod:
Y BROSES O FABWYSIADU TECHNOLEG NEWYDD
Codi ymwybyddiaeth – Ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ee cyhoeddusrwydd a digwyddiadau.
Sbarduno diddordeb – Darparu gwybodaeth a chyngor mewn nifer o ffyrdd gwahanol e.e pamffledi, gwefan, cylchgrawn.
Hybu gwerthuso – Darparu cyngor technegol drwy ymweliadau a deunydd pwrpasol.
Helpu treialu – Treialu’r syniad mewn partneriaeth ac mewn modd gweledol a chyhoeddus.
Y penderfyniad – Hybu mabwysiadu’r technoleg drwy raglen o gymorth a chefnogaeth ariannol ac ymarferol.
Chwilio am gadarnhad – Parhau i gynnig cymorth a chefnogaeth i gadarnhau bod y dewis cywir wedi’i gymryd.
Addysgu
Mae Madryn Cyf yn credu bod angen addysgu’r cyhoedd am gefn gwlad, yn arbennig eu dealltwriaeth am fwyd a maeth, a’r modd y gall cefn gwlad ddarparu bwyd maethlon ac amgylchedd i fwynhau ac ymlacio ynddi. Drwy fabwysiadu sgiliau tebyg i rai a ddefnyddir i drosgwlyddo technoleg, gall y cwmni eich helpu chi i drosgwlyddo negeseuon positif a gwersi pwysig i gynulleidfaoedd eang.