Gwasanaeth ymgynghoriaeth
Technegol – Rhaid cael gwybodaeth technegol manwl a chyfoes i gystadlu’n gryf yn y farchnad heddiw. Cynnigir gwasanaeth ymgynghori o safon wedi’i becynnu yn bwrpasol at eich anghenion mewn arywiaeth o feysydd. Arbennigir yn benodol o fewn Madryn Cyf ar gnydau, yn arbennig cnydau amgen, ac ar fwydydd swyddogaethol.
Marchnad – Gwsanaeth arbennig ar gyfer sefydlu galw’r farchnad am eich syniad chi. Mae’n wasanaeth amhrisiadwy i adnabod cyfleon da ac arferion y farchnad, ac i osgoi colledion ariannol cyn buddsoddi mewn cynnyrch newydd.
Polisi a chynlluniau – Cynnigir gwasanaeth cefnogi ar gyfer datblygu a gweithredu polisiau a chynlluniau economiadd, cymunedol neu amgylcheddol arloesol yng nghefn gwlad.
Gwerthuso – Gall Madryn Cyf eich helpu i werthuso effaith economiadd, cymunedol ac amgylcheddol polisiau a chynlluniau.