Pryd?
Sefydlwyd y cwmni yn mis Hydref 2005 gan Geraint Hughes.
Pwy?
Cyn sefyldu’r cwmni, bu Geraint yn gweithio ym Mhrifysgol Cymru Bangor am 5 mlynedd. Y profiad yma o ymchwilio a datblygu syniadau arloesol newydd ym myd bwyd-amaeth a garddwriaeth ei ysgogodd i sefydlu busnes ei hun.
Mae’r cwmni yn ymwybodol iawn o faterion sy’n dylanwadu ar allu busnesau gwledig i ffynnu. Amcan Madryn Cyf yw cynnig y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwireddu potensial economiadd syniadau arloesol yng nghefn gwlad. Mae’r rhain yn cynnwys arbenigedd technegol, y gallu i addysgu a throsglwyddo technoleg, gwasanaeth datblygu a rheoli prosiectau a sgiliau masnacheiddio.
Lle?
Mae Madryn Cyf wedi’i leoli ym Mhwllhei, prif dref Pen Llŷn yng Ngogledd Cymru. Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw prif gyflogwyr yr ardal hon, ble bo’r Gymraeg yn parhau yn brif iaith cymunedol.
Ffoniwch rhwng 9yb i 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener i drafod gwaith Madryn Cyf ymhellach, neu e-bostiwch unrhyw adeg.
***
Oes ganddoch chi fusnes Cymraeg? Beth am ei gofrestru gyda LlearyWe.com? Mae’n gyfeirlyfr arlein ar gyfer busnesau sy’n medru cynnig gwasanaeth Cymraeg.