Helpu Cefn Gwlad i Ffynnu
Croeso i wefan cwmni Ymgynghoriaeth Madryn Consultancy Cyf

Yma i helpu gwireddu eich cynlluniau arallgyfeirio
Mae’r her o ddatblygu busnesau cefn gwlad ac i gynnal cymunedau gwledig yn galed. Gall Madryn Cyf eich helpu chi i ateb yr her yma!
Mae newidiadau megis diwygiad PAC (Polisi Amaeth Cyffredin,) newid hinsawdd a chystadleuaeth cynyddol o’r farchnad byd-eang i gyd yn cael effaith ar gyflwr yr economi wledig. Os nad yw economi cefn gwlad yn ffynnu, yna ni all ei chymunedau oroesi.
Mae Madryn Cyf yn cynnig amrediad o wasanaethau hanfodol ar gyfer ymateb yn gynaladwy ac yn gadarnhaol i’r newidiadau hyn. Mae’r gwasanaethau yn addas i bartneriaid o’r sector gyhoeddus neu i gwsmeriaid o’r sector breifat.