Nid fu gennyf erioed gof da am ddyddiadau mewn hanes, ond credaf nad oes angen cofio manylion dyddiadau rhyfeloedd, brenhinoedd a thywysogion i werthfawrogi hanes. Mae deall beth oedd yr ysgogiad a arweiniodd at unrhyw sefyllfa yn bwysicach o’r hanner.
Disgrifiwyd hanes unwaith fel ‘astudiaeth o newidiadau’, yn dangos sut bu i’r fath newidiadau ffurfio’r byd sydd ohoni heddiw.
Mae’n rhaid i un ideoleg gadarn roi lle i un arall er mwyn cael newid sylfaenol. Gall hyn ddigwydd dros gyfnod o flynyddoedd neu ddegawdau, ond mae unrhyw newid ar ei fwyaf grymus pan mae nifer o bobl neu bwerau yn mabwysiadu ffordd newydd o feddwl.
Ym myd amaeth yng Nghymru heddiw mae nifer o ideolegau gwahanol yn ceisio’r llaw uchaf, ac mae dyfodol y diwydiant yn ddibynnol ar ganlyniad y gwrthdaro.
Mae Amgylcheddwyr a’r Diwydiannwyr ym myd amaeth wedi bod ben yn ben ers blynyddoedd, y naill yn ofni y bydd y llall yn difetha eu gweledigaeth.
Mae’r enghraifft yma’n dangos sut mae’r ddadl yn gallu pendilio o un ochr i’r llall, gydag un ochr neu’i gilydd yn ymddangos yn gryf, heb i’r un fod yn debygol o oruchafiaeth lwyr yn y diwedd.
Mae Amgylcheddwyr a’r Cadwraethwyr, i bob pwrpas, wedi ennill calonnau a meddyliau’r gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd yn gyffredinol. Gofynnwch i berson cyffredin beth yw pwrpas cefn gwlad, ac mae’n debyg y bydd yn son am fywyd gwyllt a chadwraeth cyn crybwyll cynhyrchu bwyd.
Ond wrth i brisiau bwyd gynyddu, a phoblogaeth y byd ehangu mae’n debyg mai’r diwydianwyr fydd yn ennill tir. Gyda mwy o bwyslais ar gynhyrchu, gallwn weld llacio ar yr hualau biwrocratig a ddioddefwn y dyddiau hyn, a bydd gwell gobaith i ffermwyr ddatblygu busnesau proffidiol.
Mae’r rhai sy’n cefnogi marchnad rydd a’r diffyndollwyr yn parhau i ddadlau ar draws y bwrdd ym Mrwsel. Mae symudiad pendant tuag at greu marchnad rydd i gynnyrch amaethyddol yn Ewrop, ond mae arwyddion fod pwerau newydd, megis China, yn barod i gefnogi eu diwydiant amaeth gyda chymorth ariannol sylweddol gan y llywodraeth.
Rwy’n cytuno y dylem anelu at farchnad rydd fel nôd hir dymor, ond yn y cyfamser mae’n rhaid hyfforddi’n diwydiant i farchnata’n effeithiol yn y byd newydd yma. Os na ddatblygwn y sgiliau i farchnata, – rhywbeth nad oedd angen ei wneud pan roedd cymorthdaliadau cnyhyrchu ar gael – yna bydd rhywrai arall (yn cynnwys yr archfarchnadoedd) yn manteisio ar yr hufen!
Clywaf ddadlau’n aml rhwng y rhai mewnblyg sy’n gyfyngedig i’w milltir sgwâr ac yn darogan gwae i amaethyddiaeth, a’r rhai eangfrydig sydd yn edrych ar y diwydiant yn nhermau byd-eang tra’n adnabod y llu o bosibiliadau i’r dyfodol.
Mae’r rhai mewnblyg wedi cael llawer o sylw yn y blynyddoedd diweddar, – ond rwy’n rhagweld mai’r rhai eangfrydig fydd ar flaen y gad yn y blynyddoedd nesaf.
Gwn ei bod yn anodd i ffermwyr defaid a chig eidion fod yn optimistaidd ar y funud, ond mae’r cynnydd diweddar ym mhris llefrith a grawn yn dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa newid.
Y frwydr rhwng y gwahanol safbwyntiau yma fydd yn llywio’n diwydiant i’r dyfodol, ac fel perchnogion busnesau, mae’n ddyletswydd arnom wylio’n ofalus pa garfan sy’n debygol o ennill y dydd. Sut bynnag y teimlwch am ddyfodol y diwydiant, … ‘Byddwch yn barod!’