Fel pob ffermwr rwy’n falch i fod yn rhan o ddiwydiant sy’n rhoi bwyd maethlon ar fyrddau’r genedl. Ni welodd y rhan fwyaf ohonom ddogni bwyd na unrhyw brinder dybryd.
Tra fod y Chwyldro Gwyrdd wedi gwthio lefelau cynhyrchiant tu hwnt i’n disgwyliadau, mae tystiolaeth gynyddol y bydd ôl-effeithiau hyn yn cael effaith andwyol am flynyddoedd i ddod. Er y môr o fwyd a gynhyrchir, mae’r boblogaeth Gorllewinol yn dioddef mwy o afiechyd nag erioed.
Mae meddygon yn yr arfer bellach o nodi rhyw glefyd neu’i gilydd ar dystysgrif marwolaeth ond faint ohonom sy’n aros i feddwl o ddifri am yr achosion craidd i’r clefydau yma yn y lle cyntaf?
Fel arfer, symptom o ryw gyflwr yw clefyd megis cancr neu afiechyd y galon, nid gwir achos y farwolaeth. Yn achlysurol, mae gan ysmygu, gor-yfed a chamddefnydd cyffuriau ran yn y broses, a gallwn, fel cymdeithas, adnabod hynny’n eitha hawdd .
Ond, hyd yn hyn, rydym yn hynod ddi-glem am y rhan a gymerir gan ein bwyd yn ein iechyd. Dyna pam fy mod yn credu mai gan yr amaethwyr yn hytrach na’r cwmniau fferyllol rhyngwladol mae’r ateb i wella iechyd ein poblogaeth.
Rydym yn bwyta’n dda, ond mae tystiolaeth wyddonol yn dangos pa mor brin o faeth yr ydym er gwaetha’n cyfoeth.
Yn fy ngholofn ddiwethaf, fe gyfeiriais at ddatblygiad chwyldroadol yn yr Unol Daleithiau, lle mae cwmniau wedi dechrau mesur cynnwys maeth bwydydd.
Allai ddim credu nad yw hyn wedi ei wneud o’r blaen .Os prynwn gar, mi wyddom yr aiff a ni o un lle i’r llall wrth edrych arno – yn yr un ffordd ac y gwyddwn yn syth os yw rhywbwth yn fwytadwy neu beidio.
Gyda car, fe fyddwn yn gofalu edrych ar holl fanylion technegol y modur cyn ei brynu. Wrth siopa am gig, ffrwythau, llysiau ag ati, nid yw’r rhan fwyaf yn poeni am werth maethlon y cynnyrch. Ond mae yna ffordd o sicrhau y gwerth maethlon gorau yn ein bwyd.
Mae’r teclyn llaw a elwir yn ‘Reffractomedr Brix’yn gallu mesur gwerth maeth mewn bwyd. Defnyddir ef yn helaeth yn y diwydiant gwin i fesur potensial eplysu sudd grawnwin. Yn syml, mae’n mesur dwysedd hylif,a gellir mesur sudd o unrhyw blanhigyn.
Mae’r mesurydd Brix yn dangos dwysedd siwgr, sydd, yn ei dro, yn cydfynd efo amrediad o elfennau gwerthfawr megis asidau amino, proteinau, mwynau a ffotomaetholion.
Lle mae cig a llefrith yn y cwestiwn, mae’r prawf yn cael ei wneud ar y gwelltglas a ddefnyddir i fwydo’r anifeiliaid.
Dyma’r union fath o dechnoleg y dylai’r diwydiant ffermio yng Nghymru ei fabwysiadu. Byddai cwsmeriaid yn cael gwell gwerth am arian o brynu bwyd gyda sgor Brix uchel. Byddai cynhyrchwyr yn eu tro yn cael eu gwobrwyo am gyflenwi bwyd llawn maeth. Bydd pawb felly ar eu hennill
I sicrhau sgor Brix uchel, rhaid cael rheolaeth pridd da a mabwysiadu dulliau cynnaladwy o ffermio. Mae planhigion gyda sgôr Brix isel yn fwy tebygol o gael eu hymosod gan bla, tra bo planhigion iach yn gallu gwrthsefyll clefydau yn llawer gwell.
Bydd cynnyrch Brix uchel yn galluogi manwerthwyr i gynnig cynnyrch safonol fydd yn cadw’n well am amser hirach i’w cwsmeriaid . Yn goron ar y cyfan, bydd bwyd Brix uchel yn arwain i boblogaeth iachach ac economi llawer mwy hyfyw.