10  Mar
Bwyd Maethlon

Mae’r cynnydd ym mhrisiau bwyd wedi cael sylw ar dudalennau blaen y papurau trymion yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae’n debyg fod cynnydd ym mhris nwyddau crai yn werth ei nodi fel hyn, ond allai ddim gweld pam fod yn rhaid ystyried y cyfan fel crisis.
Ni fu bwyd erioed mor gymharol rad. Nid yw teuluoedd y dyddiau yma’n gwario mwy na 10% o’u hincwm ar fwyd ,ac mae llawer yn gwario mwy ar ddillad ffasiynol DVDs a CDs mewn wythnos nag a wnânt ar fwyd mewn mis.
Mae maeth wedi dod yn rheidrwydd diflas i rai. Nid yw bwyd maethlon yn ychwanegu at ein delwedd yn yr un ffordd a char crand, neu ardd drawiadol o flaen y ty.
Rwy’n poeni am ein hagwedd tuag at ein bwyd. Mae gwario ar fwyd maethlon yn fuddsoddiad yn ein hiechyd a’n hapusrwydd, ond ychydig o bobl sy’n gwerthfawrogi hyn.
I’r mwyafrif, mae bwyta’n ddefod ddyddiol a ddylid ei chyflawni yn y ffordd rataf posib. Wrth gwrs, mae rhai sydd heb y dewis, oherwydd tlodi, ond mae eraill sy’n honni eu bod yn y sefyllfa yna yn parhau i wario ar adloniant, gwyliau a dillad crand.

Nid fy lle i ydi dweud wrth bobl ar beth i wario’u pres, ond rwyf yn flin nad yw pobl yn cael eu haddysgu sut i fwyta’n iach. Nid yw bwyta’n iach yn ddrytach o reidrwydd. Rhaid wynebu’r hwliganiaeth bwyd a geir yn ein cymdeithas ar bob lefel.
Roeddwn yn falch o weld y Cynulliad yn lansio ymgyrch i ymchwilio i arferion bwyta’n iach. Wrth i’r sefyllfa wleidyddol dawelu yn y Bae, mae’n rhaid i’n harweinwyr fod yn eofn a gwneud yn siwr fod pob un yn rhoi’r parch dyledus i’r bwyd mae’n ei fwyta.
Rhaid i addysg arwain y ffordd. Gobeithiaf na fydd angen eto glywed cwestiynau dwl megis ‘O ba fuwch y daw llefrith sgim?’ neu ‘Pam fod tatws yn cael eu cadw mewn pridd?’
Syniad arall blaengar fyddai gwobrwyo cynhyrchwyr bwyd maethlon. Mae strwythur prisio eisoes yn ffafrio ffermwyr cynhyrchiol, dwyster uchel, ond pe rhoddid gwerth ar ddwyster maeth, byddai ffermwyr yn addasu eu sustemau i gydymffurfio.
Dengys un arolwg ar ôl y llall fod ansawdd maeth bwyd wedi dirywio ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Ond, fel y darganfyddais yn ddiweddar, mae rhai cynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd yn America wedi dechrau graddio bwyd yn ôl ei ddwyster maeth. Mae’r dechnoleg ganddom eisoes i wneud hyn.
Mae ymgyrchu tuag at fwyta’n iach yn cynnig dyfodol sicr i’r diwydiant ffermio yng Nghymru. Mae gennym y tir a’r sgiliau i gynhyrchu bwyd da. Tra bod peth ansicrwydd yngl?n â hygrededd gwyrdd bwyd lleol, nid oes amheuaeth ynglyn â’i gynnwys maethlon oherwydd ei fod mor ffres.
Mae dyn wedi sefyll ar y lleuad, ond mae’n dal yn ddifrifol anwybodus ynglyn â maeth. Rhaid rhoi mwy o gyllid i wyddonwyr ymchwilio i’r mater, gan y bydd hyn yn gwella iechyd y boblogaeth.
Mae un arolwg yn achosi gofid drwy ddweud y gall tueddiad tuag at afiechyd mewn teulu fod yn gymaint oherwydd patrwm bwyta cyffredin o fewn y teulu hwnnw ac oherwydd genynnau gwan. Fel y dywedodd un dietegydd, Efallai bod ein genynnau’n rhoi’r bwledi yn y gwn, ond y bwyd a fwytawn sy’n eu tanio.’
Mae llawer eto i’w ddysgu, ond o ddewis bwyd maethlon, ffres o ansawdd uchel a digon o amrywiaeth, fe ddylem elwa ar ein canfed. Iechyd da i chi!

Posted by admin, filed under Erthyglau. Date: March 10, 2008, 5:07 pm | No Comments »

Leave a Comment

Your comment

You can use these tags: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Please note: Comment moderation is enabled and may delay your comment. There is no need to resubmit your comment.