10  Mar
Targedau

Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn falch o allu troi’n cefnau ar dargedau. Gall ymdrechu i’w cyrraedd roi pwysau a phoendod, a difetha swydd fyddai’n eitha cyfforddus hebddynt.
Gall targedau fod yn rhai ariannol neu yn ymwneud ag amser. (Rhaid i mi orffen yr erthygl hon o fewn yr awr!) Neu gallant fod yn gysylltiedig â chwaraeon, neu wedi eu seilio ar ddysgu sgiliau newydd.
Gall rhoi targedau i chi eich hun fod yn brofiad braf. Os ydych yn gwybod i ble ‘rydych yn anelu, gallwch wneud penderfyniadau pwysig yn llawer haws.
Ddwy flynedd yn ôl gosodais restr o dargedau busnes i mi fy hun. O fewn tair blynedd ‘roeddwn am sefydlu cwmni ymgynghori, cwmni prosesu a marchnata bwyd a busnes manwerthu.
Deilliodd y targedau unigol hyn o un syniad creiddiol sydd gennyf, sef gallu cael diddordeb masnachol ar hyd y gadwyn fwyd-amaeth, tra’n gwneud yn fawr o’r manteision i’r economi leol.
Petawn heb nodi’r uchod ar bapur, er i hwnnw fod yn un digon blêr, credaf na fyddwn fyth wedi cymryd y camau angenrheidiol i’w cyrraedd..
Mae rhedeg busnes fel teithio. Os nad ydych yn gwybod ble mae pen y daith, sut mae gwybod pa ffordd i’w chymryd? Mae teclyn ‘SatNav’ hyd yn oed, angen i’r teithiwr roi targed iddo.
Nid oes angen i darged fod yn rhagnodol. Gall datganiad syml o fwriad fod yn ddigon i roi ffocws i fusnes allu symud ymlaen.
Mae’n beryglus crwydro’n ddi-gyfeiriad, yn disgwyl i bethau ddigwydd. Wrth gwrs, rhaid i bob busnes fod yn hyblyg, i allu manteisio ar gyfleoedd ond, ar yr un pryd, rhaid iddynt greu eu dyfodol eu hunain.
Mae ambell fusnes bychan yn diystyru targedau neu’n cael eu rheoli gan 2 neu 3 unigolyn gyda gweledigaethau gwahanol, sydd yn sicr o greu gwrthdaro a thensiwn. Cyn y gall busnes symud ymlaen ,mae’n rhaid i’r perchnogion a’r gweithlu gytuno a chredu yn eu hamcanion.
Pan mae targed wedi ei osod, mae’n hanfodol ei gadw’n gyson mewn cof. Gall eraill megis gwleidyddion a gweision sifil ddylanwadu ar y sefyllfa, ond ni, a neb arall, fydd yn gorfod gwneud y penderfyniadau tyngedfennol.
Mae ffermio’n diwydiant gwych i fod yn rhan ohono. Mae amgylchiadau’n newid yn gyson, a thra bod newid bydd cyfleoedd.
Yn ddiweddarach yn y mis, bydd adroddiad ‘Ffermio Cynaliadwy a Chynllun Amaethu tuag at 2020’ a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cymreig 12 mis yn ôl yn cael ei gyhoeddi. Ynddo cawn weld eu gweledigaeth o amaethyddiaeth Cymru i’r blynyddoedd sydd i ddod.
Dylem roi sylw manwl i’r ddogfen, oherwydd y bydd yn dangos beth fydd cyfeiriad polisïau amaethyddol yn debygol o fod. Os yn berthnasol, dylem addasu’n targedau i gyd-fynd a’r hyn a geir yn y ddogfen.
Fel cyd-ddigwyddiad rhyfedd, bu i Tesco mewn partneriaeth a Unilever gyhoeddi eu gweledigaeth am 2020 ychydig wythnosau’n ôl. O edrych ymlaen bymtheg mlynedd, a cheisio rhagweld strwythurau cymdeithas, technoleg a’r sector manwerthu mae’r cwmnïau enfawr yma’n cynllunio’u dyfodol yn barod.
Ddechrau’r haf, llwyddais i gyrraedd fy nhrydydd targed personol. Prynodd fy mrodyr a minnau siop fwyd delicatessen ym Mhwllheli. Gallaf eich sicrhau fod manwerthu ar raddfa fechan yr un mor anodd a ffermio!

Mae’n amser bellach edrych am dargedau newydd.

Posted by admin, filed under Erthyglau. Date: March 10, 2008, 5:05 pm | No Comments »

Leave a Comment

Your comment

You can use these tags: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Please note: Comment moderation is enabled and may delay your comment. There is no need to resubmit your comment.