Cyfnod anwadal o’n blaenau
Mae wythnos yn amser hir ym myd amaeth.
Daeth newyddion nos Wener fel sioc i ni i gyd, yn ein hatgoffa o’r sefyllfa ddifrifol yn 2001.
Mae ffermwyr ar draws y DU yn ofni’r gwaethaf ac yn gwylio’r datblygiadau yn Surrey yn ofalus iawn.
Yn groes i’r hyn a ddigwyddodd yn 2001, mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn gyflym y tro hwn, er mwyn ceisio lleihau effaith yr haint.. Mae gwersi pwysig am y dyddiau cyntaf tyngedfennol hyn wedi eu dysgu ar ôl y profiad blaenorol.
Fodd bynnag, mae rheoli haint mor heintus yn sialens enfawr. Mae’r diwydiant yn gyffredinol, ac eithrio un neu ddau o yrwyr loriau anghyfrifol, wedi ymateb yn dda. A bod yn deg, cadw at y rheolau ydi’r unig opsiwn os yw’r diwydiant am gadw parch a diogelu’r farchnad.
Mae’r ymholiadau i darddiad yr haint diweddar wedi ei ganoli’n llwyr ar labordai cyfagos ar hyn o bryd. Os gwireddir yr ofnau, bydd y canlyniadau’n bellgyrhaeddol.
Bydd, hefyd, yn codi cwestiynau. Pam, er enghraifft, fod y gwaith ditectif moleciwlar yn cael ei wneud gan wyddonwyr yn gweithio i’r union gyfundrefnau sydd yn cael eu cyhuddo o ollwng y firws? Ydi hi’n iawn fod Merial, y cwmni fferyllol sydd yn gweithio yn y labordai yma, yn brysur yn cynhyrchu 300,000 o unedau brechu wedi eu harchebu gan y Llywodraeth rhag ofn y bydd brechu’n rhan o’u strategaeth yn y dyfodol?
Yn dilyn achos 2001, penderfynodd y Gymdeithas Frenhinol mewn adroddiad fod achosion achlysurol o’r haint yn Ewrop wedi eu cysylltu â chanolfannau brechu neu labordai.
Os yw’r labordai’n euog neu beidio, mae’r achos diweddaraf yma wedi tanlinellu peryglon mewnforio cig o wledydd lle mae Clefyd y Gwartheg Gwallgo’ yn gyffredin.
Tra pery’r Undebau i ymladd yn erbyn hyn, rhaid i ffermwyr barhau i bwysleisio manteision bwyd lleol. Un peth sicr mae’r achos yma’n ei ddangos i’r cyhoedd yw bod diwydiant da byw’r wlad yma’n hollol broffesiynol a chyfrifol wrth sicrhau fod cynnyrch cig a llaeth yn gwbl ddiogel.
Fel y dywedais o’r blaen yn y golofn yma, nid mater o filltiroedd bwyd yn unig yw bwyd lleol. Mae bwyd olrheiniadwy gan gyflenwyr dibynadwy, a chefnogi’r economi leol yn bwysig hefyd. Bydd hyn yn allweddol yn y misoedd i ddod. Gadewch i ni sicrhau ein bod yn trosglwyddo’r neges i’n cwsmeriaid.
Gallwn i gyd wella’r ffordd y prynwn ein bwyd. Gwn am ormod o bobl sy’n prynu cig heb olrhain ei hanes. Gall llawer o gwmnïau a sefydliadau Cymreig wella’u cefnogaeth o fwyd lleol.
Os yw sefydliadau cyhoeddus yn cynnal pryd neu fwffe, gallent sicrhau fod o leiaf y cig a’r caws a weinir yn dod o Gymru. Gan fod gwin, d?r a thatws hefyd ar gael ar hyd y flwyddyn, nid oes reswm pam na all y rhain hefyd gael eu cynnwys.
Mae tywydd gwael yr haf wedi gwneud ffermio’n anodd eleni, ac mae hyn wedi cael effaith ar ladd-dai, ocsiynau a chwmnïau cludo hefyd.
Mae’n si?r fod Dr Christine Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol y Cynulliad yn poeni beth ddaw nesaf, ar ol helynt Skanda Vale a’r achos o Glwy’r Gwartheg Gwallgo’.
Gobeithio bydd y ffordd ymlaen yn gliriach yn y dyddiau nesaf.