Delio gyda newidiadau yw un o sialensau mwyaf bywyd. Boed fod o’n cywiro set y car i’ch safle personol, neu clywed am enedigaeth eich tripledi, mae newid yn gwneud bywyd yn ddiddorol.
Fel pob diwydiant, mae ffermio yn gorfod gwynebu newidiadau yn reolaidd. Mae’r diwygiadau diweddar i gymorthdaliadau ym myd amaeth wedi gosod y diwydiant yn gadarn ar y ffordd i ddod yn ddiwydiant sy’n cael ei arwain gan gwsmeriaid, yn hytrach na’r gwleidyddion.
Gyda hyn mewn golwg, sefydliais fy nghwmni fy hun cyn Nadolig y llynedd o’r enw Madryn Cyf. Ar ol 5 mlynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Cymru Bangor, penderfynais i newid fy mywyd a mynd amdani.
Prif ddiddordeb Madryn Cyf. yw hybu arloesedd ym myd amaeth. Mae’n darparu cefnogaeth technegol ar gynhyrchu cnydau amgen, amaethu hydroponeg, a datblygu bwydydd swyddogaethol. Tra fydd llaeth, eidion, a defaid, sef y tri sector traddodiadol yn parhau i fod yn asgwrn cefn y diwydiant am lawer o flynyddoedd eto, bydd rhaid i fusnesau gwledig gofleidio technoleg newydd ynghyd a’r tueddiadau masnachol diweddaraf er mwyn cyflenwi anghenion y farchnad.
Un o’r newidiadau mwyaf sy’n gwynebu pob un ohonom yw cynhyrchu cyflenwad egni dibynadwy a glan at y dyfodol. Mae bron i hanner o’r ymholiadau a dderbynnwyd gan Madryn Cyf y flwyddyn yma wedi bod yn seiliedig ar gynhyrchu unai biomas neu bio-disl.
Nid oes dwy-waith y bydd bio-disl yn digwydd. Yn economaidd, prin mae’n llwyddo i fod yn hyfyw ar gyfer defnydd eich hun ar y fferm. Ymhellach o hyn, rwyn amau os ddylai ffermwyr Gogledd Cymru gyffroi’n ormodol.
Cyn gynted ag y bydd bio-disl yn sefydlu ei hun yn gynnyrch sylfaenol, bydd y gyfundrefn fydd yn ei reoli’n ffafrio caeau mawr a pheiriannau anferthol. Nid dyma rai o gryfderau Cymru.
Ceir tyfwyr yn Llyn, Conwy ac ar Ynys Mon sy’n ddigon synhwyrol i gysidro cynhyrchu bio-disl i ddiwydiannau lleol neu at ddibenion eu busnes contractio.
Fel ardal sydd gyda’r mwyafrif yn ffermio da byw, mae ganddom ddipyn o fanteision eraill o ran tyfu bio-disl. Gall y gacen a gynhyrchir ar ol gwasgu’r hedyn ei ddefnyddio fel bwyd i’r anifieiliaid, a’r gwellt o’r cnwd ei ddefnyddio o dan gwartheg stor.
Mae cynhyrchu cnydau biomas megis miscanthws a choedlannau helyg cylchdro byr i gynhesu adeiladau neu i gynhyrchu trydan yn edrych yn fwy ffafriol ar hyn o bryd. Yn economiadd, rhaid iddo gael ei dyfu’n lleol, ag o ran hinsawdd, mae ganddom amodau tyfu delfrydol i gnydau gwair biomas.
Mae Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon ger Caernarfon yn chwarae rol bwysig mewn treialu ac arddangos cnydau biomas. ‘Mae ein myfyrwyr a ffermwyr lleol yn medru asesu perfformiad helyg, miscanthws a’r corswellt amryliw’ meddai Mr Eurwyn Edwards, Cyfarwyddwr Defnydd Tir y coleg. ‘Rydym yn edrych ar ffyrdd i ddefnyddio ein cnydau i gynhyrchu gwres a thrydan ar y campws er mwyn cynnig adnoddau arddangos cyflawn o egni biomas.’
Mae llawer iawn o ffermwyr yn awyddus i dyfu biomas, a byddai mwyafrif o’r cyhoedd yn neidio at y cyfle i’w ddefnyddio, ond fel llawer iawn o fentrau newydd, mae’n dioddef o syndrom ‘yr wy a’r iâr’. Ydan ni’n plannu’r cnwd yn gyntaf, ynteu prynu’r boeler? Y ddau gyda’i gilydd yw’r ateb delfrydol.
Tyfu ein hunain allan o’r argyfwng egni yw dim ond rhan o’r ateb cyflawn. Mae’r ddadl os ydi Trawsfynydd neu Wylfa am gyfrannu tuag at yr ateb eto i’w hennill. Yn sicr, dylai trai a llanw, tonnau’r mor, egni hydro, solar ac egni gwynt chwarae rhan.
Mae’n wybyddus fel y daeth Charles Darwin i’r casgliad mai’r rhywogaethau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n medru addasu i newid. Fel yr anifeiliaid yr astudiodd ar ynysoedd y Galapagos, bydd rhaid i fusnesion ffermydd llwyddianus y dyfodol orfod esblygu i oroesi, ac i rai, bydd cynhyrchu egni’n darparu’r cyfle i wneud hynny.