19  Jul
Esblygiad Bwyd

Mae’n fy mhoeni pan fyddaf yn clywed y ddadl ‘bydd pobl wastad angen bwyd’. Ni all neb ysgymuno’r ddadl hon, ond yn yr un modd ni ddylai gael ei gamddefnyddio i gyfiawnhau defnyddio’r un dulliau cynhyrchu a ddefnyddwyd gan ein cyn-dadau gan obeithio bod newyn mawr ar y gorwel i achub y diwydiant.

Nid oes gymaint a hynny o amser wedi mynd heibio ers pan roedd bwyd yn cael ei gynhyrchu i’w wir bwrpas, sef i oroesi. Wrth gwrs, mae hyn dal i fod yn wir yn rhai o ardaloedd tlotaf y Byd. Yng Nghymru, rydym yn ddigon breintiedig i gael dewis rhwng bwyd wedi cael ei dyfu yn unol a chylchred y lleuad, neu wedi’i fagu gyda se bendith yr RSPB. Gor-gynhyrchu bwyd sy’n gyfrifol am roi y dewis yma i ni.

Mae esblygiad bwyd wedi dod yn ei flaen gryn dipyn ers dyddiau’r dognau bwyd y Rhyfel. Heddiw, mae’r cwsmer yn chwilio am hwylustod, moethusrwydd, bwyd ecsotig ac iach, a weithiau i gyd hefo’i gilydd. Prin iawn yw’r adegau hefyd pryd y byddwn yn bwyta o angen y dyddiau yma. Mae bwyd yn y byd cyfoes wedi datblygu i fod yn fodd i gymdeithasu, i wella ein iechyd, ac yn y pendraw i’n helpu i ddiffinio ein personoliaethau.

Bydd y cyfnod nesaf yn esblygiad bwyd yn cael ei yrru ymlaen gan dechnoleg. Mae ein dealltwriaeth o sut mae maethynnau gwahanol yn effeithio ar ein cyrff yn dal i fod yn ryfeddol o arwynebol. Ond wrth i wyddonwyr weithio eu ffordd drwy lith o arbrofion, daw yn fwy a mwy amlwg sut y gall bwyd wella ein iechyd meddyliol yn ogystal a’n iechyd corfforol.

Arweiniodd y datblygiadau yma tuag at genhedlaeth newydd o fwydydd technolegol. Gelwir y rhain yn fwydydd swyddogaethol, a credir y byddant yn chwyldroi y ffordd rydym yn bwyta am byth. Mae’r cynnyrch yma, sydd weithiau’n cael eu galw’n fwydydd clyfar, yn medru gwella iechyd a pherfformiad y corff y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol.

Mae asesiadau masnachol diweddar yn amcangyfrif bydd y farchnad i fwydydd swyddogaethol yn dwblu mewn gwerthiant dros y 4 mlynedd nesaf i fod werth £1.72bn erbyn 2007.

O’r holl is-ddiwdiannau cynhyrchu bwyd, y sector laeth sydd wedi manteisio orau ar y cyfle yma ym Mhrydain. Erbyn hyn, mae cwsmeriaid yn disgwyl medru dewis llaeth fydd un ai yn eu helpu i gysgu, sy’n cynnwys lefelau uchel o omega-3, fydd yn gwella eu system dreulio, neu hyd yn oed yn eu helpu i leihau lefel colestrol. Dyw llaeth cyffredin ddim yn ddigonol i ofynion y cwsmer modern.

Bydd yr entrepreneuriaid yn eich mysg sydd yn darllen hwn yn siwr o weld papurau arian yn fflachio, gan fod ychwanegu
’swyddogaeth’ i fwydydd yn cynnig cyfleon di-ri i ychwanegu gwerth i gynnyrch fferm.

Mae’r dewis i’r garfan sy’n meddwl ‘bydd pobl wastad angen bwyd’ yn syml. Gallent un ai barhau i roi eu pennau yn y tywod, neu gallent ddeffro o’u trwmgwsg a cynhyrchu beth mae’u cwsmer yn ofyn amdano.

Boed o’n groes i’ch graen neu beidio, does dim dwywaith bydd egwyddorion y farchnad rydd yn llywodraethu ffermio yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae Cymru’n wyrdd, yn lan ac yn naturiol, ond mae hynny’n wir am Yr Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a Seland Newydd hefyd.

Ni ddylem roi ein wyau i gyd yn yr un basged fel diwydiant drwy ddibynnu ar y ddelwedd werdd yn unig. Drwy fuddsoddi mewn cynhyrchu bwydydd swyddogaethol Cymreig byddem yn medru arallgyfeirio i gyflenwi anghenion gwahanol a thrwy hynny gryfhau amaethu yng Nghymru.

Beth am gig eidion Cymreig yn llawn omega-3? Mae hyn yn ddigon rhwydd i’w gyflawni drwy addasu porthiant y gwartheg. Mae canran sylweddol o laeth Iwerddon yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu diodydd iogwrt pro-biotig. Yn yr un modd, mae lle yn y farchnad garddwriaethol i gynhyrchu ffrwythau meddal Cymreig sy’n uchel mewn gwrthocsidyddion, neu cynnyrch fel haidd noeth sy’n uchel mewn ffeibr toddadwy.

Yn wir gall hyn fod yn llawer mwy na newid mewn strategaeth farchnata. Gallai ysgogi symudiad sylfaenol yng ngwleidyddiaeth ffermio. Petai amaeth yn allweddol i wella iechyd y genedl, oni fyddai canfyddiad a delwedd y cyhoedd o ffermio yn gweddnewid dros nos? Tybed petaem yn gweld y Llywodraeth unwaith eto yn dewis hyrwyddo a chefnogi ffermio i’r carn? Dyna beth ydi rhywbeth i gnoi cil arno fo!

Posted by admin, filed under Erthyglau. Date: July 19, 2006, 5:48 pm | No Comments »