A ddylai unrhyw un gael yr hawl i ffermio?
Fel mae pethau ar y funud, gall unrhyw berson brynu tir a dechrau ffermio’n syth. Mae hyn yn ymddangos yn beth braf iawn mewn oes fiwrocrataidd fel hon. Ond a ddylem ni fel diwydiant, ddwys ystyried ydyw hyn yn beth da mewn gwirionedd?
Os cymharwch ffermio gyda galwedigaethau eraill, fe welwch ein bod ar ei hol hi yn nhermau anghenion achrediad proffesiynol a sgiliau sicrwydd ansawdd. Os ydych wedi ceisio swydd fel plymar neu drydanwr erioed, fe werthfawrogwch faint o waith papur mae hynny’n ei olygu’r dyddiau hyn.
Er bod llawer o gwyno am y gwaith papur y mae’r diwydiant adeiladu’n sylweddoli fod y cyfundrefnau ansawdd yma wedi helpu i gael gwared â defaid duon yn y diwydiant.
Yn yr un modd, os ydych am werthu’ch ty, neu fynd ar wyliau byddech yn sicrhau fod yr asiant tai neu’r asiant teithio yn berchen tystysgrifau achrediad
Ond wrth drafod rheolaeth tir, adnodd mor werthfawr, a bwydo’r genedl gyda bwyd maethlon, diogel, nid oes brofion sylfaenol i sicrhau fod y ffermwr yn addas i wneud y gwaith.
Dylai sicrhau dealltwriaeth drylwyr o les anifeiliaid yn unig fod yn rheswm digonol i ystyried sustem ‘ticed i ffermio’. Nid mater o gadw anifeiliaid anwes yw ffermio da byw, ond yn hytrach gyflenwi’r amgylchedd a’r gofal gorau posibl
ar gyfer yr anifeiliaid er mwyn cynhyrchu bwyd diogel mewn ffordd effeithiol.
Byddai manteision eraill llai amlwg i’r fath gyfundrefn. Gallai gofyn am sgiliau sylfaenol yn y proffesiwn wneud ffermio’n opsiwn gyrfa mwy ffafriol i ffermwyr ifanc. Gallai’r gwaith ennill parch a hygrededd drwy ddilyn cyfundrefn achredu dda.
Gyda chymaint o dir yn cael ei brynu gan bobl nad ydynt yn ffermwyr, efallai y byddai’n bosibl cael trefn fod yn rhaid cael cymwysterau cydnabyddedig cyn gallu ffermio’r tir hwnnw? Gallai hyn, efallai, adennill nerth i ffermwyr yn y farchnad tir?
Gallai trefn o’r fath ei rhedeg ar sail wirfoddol i ddechrau, ac rwyf yn sicr mai dim ond ychydig iawn fyddai’n wynebu problemau cydymffurfio dwys.
Nid wyf yn llwyr argyhoeddedig ar y funud, ond mwya’n y byd rwy’n meddwl am y syniad, mwyaf o fantais a welaf i hyrwyddo trafodaeth agored ar y mater ymysg pobl o’r sector amaethyddol yn hytrach na rhai o’r tu allan. Gallai hwn fod yn fenter o fewn y diwydiant i gynyddu sgiliau a sicrhau mai dim ond y rhai cymwys sydd â’r gwaith pwysig o warchod tir ag anifeiliaid er mwyn cynhyrchu bwyd ac ynni.
Credaf fod creu ein cynllyn achredu ein hunain yn llawer gwell na gadael i bobl o’r tu allan i’r diwydiant symud ymlaen gyda chymhellion dirgel.
Gyda’r syniadau yma mewn golwg, rwyf yn lansio fforwm ar-lein pwrpasol ar wefan Madryn fel y gall pobl yn y diwydiant ffermio drafod ystod o bynciau llosg.
Gyda’n gilydd, mae gennym doreth o wybodaeth a phrofiad a ddylai gael ei rannu. Mae technoleg ar-lein yn ein galluogi i gyrraedd at ein gilydd, felly piciwch draw i’r wefan a rhowch glic ar ‘fforwm trafod’ ar www.madryn.co.uk a chofrestrwch er mwyn cymryd rhan.