Croeso i wefan cwmni Ymgynghoriaeth Madryn Consultancy Cyf

Mae’r her o ddatblygu busnesau cefn gwlad ac i gynnal cymunedau gwledig yn galed. Gall Madryn Cyf eich helpu chi i ateb yr her yma!
Mae newidiadau megis diwygiad PAC (Polisi Amaeth Cyffredin,) newid hinsawdd a chystadleuaeth cynyddol o’r farchnad byd-eang i gyd yn cael effaith ar gyflwr yr economi wledig. Os nad yw economi cefn gwlad yn ffynnu, yna ni all ei chymunedau oroesi.
Mae Madryn Cyf yn cynnig amrediad o wasanaethau hanfodol ar gyfer ymateb yn gynaladwy ac yn gadarnhaol i’r newidiadau hyn. Mae’r gwasanaethau yn addas i bartneriaid o’r sector gyhoeddus neu i gwsmeriaid o’r sector breifat.
- Gwasanaeth ymgynghorol arbennigol
- Gwasanaeth trosglwyddo technoleg ac addysgu
- Gwasanaeth datblygu a rheoli prosiectau
- Gwasanaeth masnacheiddio
Gall y cwmni’n benodol gynnig arbennigedd mewn tyfu, prosesu a marchnata cnydau amgen e.e olew, tanwydd, ffeibr, cynnyrch meddyginiaethol, bwydydd anghyffredin… ac arbennigedd mewn datblygu a marchnata bwydydd swyddogaethol. Cynnigir arbenigedd mewn meysydd eraill megis twristiaeth cynaladwy a gwarchod yr amgylchedd drwy gysylltiadau Madryn Cyf gyda ymgynghorwyr eraill.
Os yw datblygu yr economi wledig yn amcan i’ch sefydliad neu fusnes, yna porwch ymhellach drwy’r wefan neu cysylltwch heddiw i drafod ymhellach.
Manylion Cysylltu
Ymgynghoriaeth Madryn Consultancy Cyf
Fferm Iocws
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5TY
Cymru - UK
T: +0044 1758 612621 neu +0044 7740 721109
E: geraint[at]madryn.co.uk